Mae'r efengyl fwyn yn curo,
Ac yn codi baner gras,
Mewn rhyw filoedd o ardaloedd,
Ar y mynydd, yn y maes;
Y mae llef, bur y nef,
Yn cyhoeddi ei haeddiant ef.
Deuwch, hil syrthiedig Adda,
Daeth y Jubil fawr o hedd:
Galwad sydd ar bawb o'r enw
I fwynhau tragwyddol wledd;
Bwrdd yn llawn, yma gawn,
O foreuddydd hyd brydnawn.
- - - - -
Mae'r efengyl wen yn curo,
Ac yn codi baner gras,
Mewn rhyw filoedd o ardaloedd,
Ar y mynydd, yn y maes;
Y mae llef bur y nef,
Yn cyhoeddi ei haeddiant Ef.
Mi debygwn gwelai'r boreu,
Haul yn codi oddi draw,
Iachawdwriaeth rad yn nesu,
Hedd a phardwn yn ei llaw;
Mae y wawr, hyfryd awr,
Bron a thori dros y llawr.
William Williams 1717-91
Tonau [8787.337]: gwelir: Deuwch hil syrthiedig Adda Dewch i'r frwydyr dewch yn eon Mi debygwn gwelai'r bore |
The blessed gospel is knocking,
And raising a banner of grace,
In some thousands of regions,
On the mountain, in the field;
There is a cry, heaven pure,
Announcing his merit.
Come, descendants of fallen Adam,
The great Jubilee of peace has come:
There is a call on everyone of the name
To enjoy an eternal feast;
A full table, here we may have,
From morning until evening.
- - - - -
The blessed gospel is knocking,
And raising a banner of grace,
In some thousands of regions,
On the mountain, in the field;
The pure cry of heaven is,
Publishing His merit.
I suppose I shall see the morning,
A sun rising from yonder,
Free salvation approaching,
Peace and pardon in his hand;
The dawn is, delightful hour,
Almost breaking across the earth.
tr. 2010,17 Richard B Gillion
|
|